Hafan > Gwerthu
Gwerthu
Mae Tom Parry a’i Gwmni yn gwmni annibynnol o Werthwyr Eiddo Proffesiynol a Syrfewyr Siartredig, sydd wedi magu enw da iawn am werthu eiddo yn llwyddiannus ers 1912. Rydym yn darparu cyngor proffesiynol heb ei ail yn seiliedig ar dros 100 mlynedd o brofiad yn yr ardal leol.
Gwyddom y gall gwerthu tŷ fod yn broses gymhleth a straenus, ac mae dewis yr asiant cywir yn hanfodol er mwyn sicrhau gwerthiant esmwyth. Mae ein ehangder a'n dyfnder o wybodaeth a phrofiad lleol yn ein galluogi ni i fod yn y sefyllfa orau bosibl i werthu eich eiddo ar eich rhan. Fel busnes teuluol rydym yn ymfalchïo wrth gynnig gwasanaeth proffesiynol bersonol; gan eich arwain gam wrth gam drwy y broses werthu o’r gwerthusiad cyntaf hyd at gwblhau y gwerthiant.
Rhoddwn ymrwymiad i'n cleientiaid i sicrhau y pris gorau posibl am eu heiddo, ac mae gennym enw da yn hyn o beth.
Rydym yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
- Gwerthusiad cychwynnol o werth eich eiddo ar y farchnad agored, yn rhad ac am ddim, heb unrhyw orfodaeth.
- Cyngor ar y strategaeth farchnata orau, gan gynnwys cyhoeddiadau ar-lein a phapur
- Rydym yn darparu manylion gwerthiant o safon uchel, wedi'i deilwra i ofynion ein cleientiaid
- Cyfle i werthu trwy Gytundeb Preifat neu drwy Ocsiwn
- Tîm gwerthu penodol
Beth am gysylltu â'n tîm gwerthu fydd yn falch iawn i'ch cynorthwyo chi.