Hafan > Gwasanaethau
Gwasanaethau
Gwerthusiad / Prisiad
Gall ein tîm o Syrfewyr Siartredig a Phriswyr Cofrestredig eich cynorthwyo gyda'ch anghenion prisio. Wedi ei rheoleiddio gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig a gyda phrofiad helaeth yn y maes hwn gall ein tîm ddarparu cyngor ar brisio ar y canlynol:
- Eiddo Preswyl
- Eiddo Masnachol (gwerthu a gosod)
- Tir
- Prisiadau Prawf
- Asesiadau Cost Prisio Yswiriant Tân / Adfer
- Treth Enillion Cyfalaf.
Arwerthiannau
Rydym yn gweithredu mewn partneriaeth â "iam-sold", darparwr arwerthiant arbenigol a gwobrwyol.
Nid yw'r dull gwerthu traddodiadol drwy Gytundeb Preifat yn addas i'n holl gleientiai, ac efallai y bydd gwerthu eich eiddo trwy’r Dull Ocsiwn Fodern yn gweddu orau i’ch anghenion.
Heb unrhyw ffioedd i'w dalu ar werthu eiddo trwy'r Dull Ocsiwn Fodern, efallai y bydd hyn yn gweddu orau i'ch anghenion.
Mae'r dull ocsiwn fodern yn llês enfawr wrth i ni ddenu diddordeb yn yr eiddo o’r dydd cyntaf o farchnata, ac yn ymchwyddo hyd nes cael y pris uchaf posibl i chi. Mae'r pris neulltuio yn ffigwr a gafodd ei osod ymlaen llaw, sef y ffigwr isaf y byddech yn fodlon ei dderbyn am eich eiddo. Mae'r ffigwr hwn yn gwbl gyfrinachol er mwyn sicrhau'r pris gorau posibl, a bydd gan unrhyw ddarpar brynwr gyfle i gynnig hyd at uchafswm eu cyllideb.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm gwerthu a fyddai'n falch i'ch cynorthwyo.
Ymgynghoriaeth Adeiladau
Gall ein tîm o Syrfewyr Siartredig ddarparu cyngor ar bob agwedd o gylch oes eich eiddo. Gyda profiad eang yn y sectorau preswyl a masnachol, gallwn ddarparu'r gwasanaethau canlynol:
- Arolwg Prif Ddiffygion Preswyl
- Dilysrwydd Dyledus Technegol Masnachol
- Cyngor Adfeiliad
- Atodlenni Amod
- Cyngor ar Waliau Terfyn
- Gweinyddiaeth Contract / Rheoli Prosiectau
- Cyngor Cynnal a Chadw Eiddo
Gwasanaethau Proffesiynol Eraill
Yn ogystal a’n gwasanaethau gwerthu, prisio a gwasanaethau ymgynghori, rydym hefyd yn gallu rhoi cyngor proffesiynol ychwanegol ar y canlynol:
- Cyngor Prynu Gorfodol
- Trafodiadau a chyngor hawddfraint / hawl tramwy
- Aflonyddwch
- Hawliadau iawndal